Os ydych chi'n ymarferydd sy'n chwilio am wybodaeth i gefnogi eich cleifion, cliciwch yma.
Yn ogystal â’r manteision iechyd, gallwch chi/eich plentyn ddod o hyd i ffrindiau newydd, magu hyder, a datblygu sgiliau a allai fod yn ddefnyddiol mewn agweddau eraill ar fywyd.
Gall gweithgarwch corfforol cynhwysol gynnwys chwaraeon, ymarfer corff a gweithgareddau eraill sydd o bosibl ddim yn ymddangos fel ‘chwaraeon’. Mae cysylltu â phobl newydd, cyfleoedd i fod yn greadigol, neu wirfoddoli i gyd yn darparu ffyrdd o fod yn fwy actif.
Caiff y Llwybr Gweithgarwch Anableddau Iechyd ei gyflwyno mewn partneriaeth rhwng GIG Cymru, Chwaraeon Anabledd Cymru a Thimau Datblygu Chwaraeon Lleol. Gall y llwybr eich helpu chi/eich plentyn i gysylltu â chyfleoedd cynhwysol i fod yn actif, gan gynnwys chwaraeon yn eich ardal leol.
Ni waeth beth yw eich oedran, eich gallu, neu pa mor ffit yr ydych yn ei deimlo, mae cymorth ar gael er mwyn dod o hyd i weithgareddau addas.
I gael gwybod mwy am glybiau, chwaraeon a digwyddiadau cynhwysol sydd dafliad carreg oddi wrthych, gofynnwch i'ch gweithiwr proffesiynol gofal iechyd neu weithiwr gofal cymdeithasol i lenwi’r ffurflen gyfeirio.
Ar ôl hynny, byddwch chi / a’ch plentyn yn cael gwybodaeth am gyfleoedd y gallech fod eisiau eu harchwilio ymhellach.
Dysgu mwy am y Llwybr